Post has attachment
LibreOffice 5.3
Mae LibreOffice 5.3 newydd ei lansio ac ar gael o'r wefan Cymraeg yn http://cy.libreoffice.org/llwytho-i-lawr/libreoffice-fresh/

Mae manylion nodweddion newydd y fersiwn diweddaraf i'w gweld yn http://cy.libreoffice.org/darganfod/nodweddion-newydd/

Post has attachment
Heddiw mae Firefox yn rhyddhau Firefox Focus ar gyfer iPhone a'r iPad. Mae Firefox Focus ar gael yn Gymraeg a 26 iaith arall.

Blaenoriaeth y porwr yw rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr na fyddan nhw'n cael eu tracio na'u haflonyddu gan hysbysebion diofyn. Mae'r Botwm Dileu amlwg yn ychwanegu ar allu'r defnyddiwr i ddiogelu ei hun.

Mae modd llwytho Firefox Focus o'r App Store a dewis Cymraeg o'r Gosodiadau>Iaith

Mae modd darllen rhagor am dracio, diogelwch ar y we a llywodraethau'n gwylio i'w weld yn Deall yn Well -https://www.mozilla.org/cy/teach/smarton/

Rhagor am waith Mozilla yn Gymraeg - https://www.mozilla.org/cy/
Photo

Post has attachment
Ivona - mae modd gwrando ar eich e-lyfrau Cymraeg ar Android drwy ddefnyddio ap Cymraeg Ivona. Mae yna ddau lais - Gwyneth a Geraint i ddewis ohonynt.
Photo
Photo
2016-01-26
2 Photos - View album

Post has attachment
Deall yn well am y we - mae Mozilla wedi cyhoeddi cyfres o ganllawiau defnyddiol ar gadw'n ddiogel ar y we, cyfres sy'n cynnwys:
Tracio
Diogelwch ar y we
Llywodraeth yn gwylio
https://www.mozilla.org/cy/teach/smarton/

Post has attachment
Mae yna doreth o feddalwedd ar gael yn Gymraeg a gall fod yn anodd dod o hyd iddo a gwybod sut mae ddefnyddio. Bydd Meddal yn amlygu beth sydd ar gael a lle mae cael gafael ynddo. Mae Meddal yn Google+ yn gysylltiedig â Meddal.com a Meddal ar Facebook.
Photo
Wait while more posts are being loaded